Eirian WynJONESChwefror 13, 2023 4 Bro Glyder, Nant Peris. Yn dawel, wedi brwydr ddewr, ar Ward Alaw Ysbyty Gwynedd yng nghwmni tyner ei gŵr yn 53 mlwydd oed. Gwraig gariadus a ffyddlon Pete; mam hynod o arbennig Victoria a Daniel; chwaer annwyl Menai a Mel, Ian a Wendy, Carys a Mark, ac Arwyn. Merch y diweddar Hugh a Breda Hughes; nith, cyfnither, modryb, ffrind, cydweithwraig a chymydog hoffus. Colled enfawr i'w theulu a'i ffrindiau oll. Angladd ddydd Sadwrn, Chwefror 25, 2023. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Peris, Nant Peris am 10.00 o'r gloch gan ddilyn yn Amlosgfa Bangor. Gwisg anffurfiol, du ddim yn angenrheidiol. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion, mewn cydnabyddiaeth o'r gofal a'r anwyldeb, yn garedig er cof am Eirian tuag at Ward Alaw. Ymholiadau pellach i Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon. 01286 871833
Keep me informed of updates